Anogwn bob plentyn i wisgo’n daclus mewn gwisg ysgol lawn.   O safbwynt iechyd a diogelwch ni ddylai’r plant wisgo gemau yn ystod oriau ysgol, heblaw am ‘studs’ neu oriawr (sydd ddim yn gallu danfon/derbyn nesegeuon na ffotograffau yn ddigidol). Mae’n hanfodol bwysig i rieni osod enw’r plentyn yn glir ar ddillad ysgol.  Os digwydd i blentyn golli dilledyn cedwir y dillad coll naill ochr am gyfnod, ac anogir y rhieni i holi yn y brif swyddfa. Sylwch nad yw logo’r ysgol yn orfodol ar unrhyw eitemau gwisg ysgol.

COFIWCH: Mae gennym hefyd wisg ysgol rad ac am ddim sydd
mewn cyflwr da – dewch i bori drwy’r rheiliau ym mhrif Dderbynfa’r ysgol a chymerwch beth sydd ei angen arnoch.

 

Children are encouraged to dress neatly in full school uniform.  In order to ensure their health and safety, pupils should not wear jewellery during the school day, apart from ‘studs’ or watches (that cannot send/receive messages or photographs digitally). We urge parents to place name labels on school clothing.  If a child loses an item of clothing, parents are able to enquire at the school reception.  Lost property is kept for a period of time.  Please note that the school logo is not mandatory on any uniform items.

REMEMBER: We also have free, preloved and good condition uniform – please come and browse the rails at the school main Reception and take what you need.

 

Crys Polo Coch                                                              Red Polo Shirt      

Siwmpwr / Cardigan / Hoodie Gwyrdd                             Green Jumper / Cardigan / Hoodie

Trowsus / Siorts Hir / Sgert Llwyd                                   Grey Trousers / Long Shorts / Skirt

Ffrog Haf Gwyrdd / Coch                                               Green / Red Summer Dress

Esgidiau Du neu Esgid Chwaraeon Hollol Ddu                 Black Shoes or All Black sport / trainer

 

YGBO Canllawiau Gwisg Ysgol – School Uniform Guidelines