Yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr rydym yn falch iawn ac yn ffodus o gael cymuned ysgol ymroddedig a chefnogol iawn. Yn ein hysgol ni mae’r staff, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr i gyd yn cydnabod bod addysg ein plant yn bartneriaeth rhyngom.
Fel partneriaeth rydym i gyd yn ymwybodol o bwysigrwydd perthynas waith da ac rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd y cydberthnasau hyn i roi’r sgiliau angenrheidiol i’n plant ar gyfer eu haddysg. Am y rhesymau hyn byddwn yn parhau i groesawu ac annog rhieni a gwarcheidwaid i gymryd rhan lawn yn mywyd ein hysgol.
At Ysgol Gymraeg Bro Ogwr we are very proud and fortunate to have a very dedicated and supportive school community. At our school the staff, governors, parents and carers all recognise that the education of our children is a partnership between us.
As a partnership we are all aware of the importance of good working relationships and all recognise the importance of these relationships to equip our children with the necessary skills for their education. For these reasons we will continue to welcome and encourage parents and carers to participate fully in the life of our school.
Cwblhewch gan ddefnyddio’r ddolen isod os gwelwch yn dda.
Please complete by using the link below.